Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2017
Amser: 08.30 -
08.43
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai'r Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda datganiadau gan y Llywydd a'r Prif Weinidog ar yr ymosodiadau yn Llundain.
· Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn awgrymu y dylid gohirio'r Penderfyniad Ariannol ar gyfer Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan i wybodaeth newydd ddod i law ar ôl i'r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
· Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor y byddai'r Penderfyniad Ariannol ar gyfer Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn aros ar yr agenda, ond na fyddai'r Gweinidog yn ei gynnig, a byddai'n dweud hynny yn ei gyfraniad yn y Ddadl yng Nghyfnod 1. Y disgwyl bellach yw y caiff y Penderfyniad Ariannol ei gynnig yn ystod tymor yr hydref.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes..
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y ddadl fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 21 Mehefin 2017 –
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 28 Mehefin 2017 –
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei adroddiad ar ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru (60 munud) – eitem wedi’i symud o 21 Mehefin
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi cynigion diwygiedig i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i arferion gorau o ran y gyllideb. Mae'r papur yn cynnig drafft diwygiedig o newidiadau arfaethedig, yn cynnwys y newidiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod diwethaf.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor ar y cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â phroses y gyllideb. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno adroddiad ar gyfer cael eu cytundeb arno yr wythnos nesaf.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais y Pwyllgor Materion Allanol i Aelodau'r Pwyllgor gael eu hesgusodi rhag bod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017 er mwyn cynnal cyfarfodydd ym Mrwsel.
· Gan na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn bresennol yn ystod y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon, byddai'r Comisiynwyr Joyce Watson a Suzy Davies yn cadeirio rhannau o'r ddau Gyfarfod Llawn.
· Roedd Jane Hutt am ddiolch ar gofnod i staff y Comisiwn a oedd wedi helpu i drefnu angladd Rhodri Morgan yn y Senedd ar 31 Mai.
· Hysbysodd David Rowlands y Pwyllgor am farwolaeth Sam Gould yn 33 oed, staff cymorth i Nathan Gill AC.